Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4254
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus?
Dechreuodd yr eitem am 14.27
I Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC?
Dechreuodd yr eitem am 14.39
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith:
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu?
Dechreuodd yr eitem am 14.52
I
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon:
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd?
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Dechreuodd yr eitem am 16.56
NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6255 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt a)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
46 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu at ddiwedd is-bwynt a):
'fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
14 |
3 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy
gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol;
Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6255 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu
c) sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.20
Daeth y cyfarfod i ben am 18.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017